Datganiad i'r Cyfryngau
6 Mehefin 2002
Mae'r Athro Ray Jones, Prif Weithredwr y Sefydliad Gofal er Rhagoriaeth (SCIE) ers ei ddechreuad yn 2001, wedi penderfynu dychwelyd i Gyngor Sir Wiltshire fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Oedolion a Chymuned. Bydd Yr Athro Jones yn gadael SCIE yn ddiweddarach eleni.
Wrth gyhoeddi hyn heddiw ychwanegodd Jane Campbell, Cadeirydd SCIE: "Mae'n flin gennym golli Ray Jones fel Prif Weithredwr. Gan ddefnyddio ei brofiad helaeth o reoli a darparu gofal cymdeithasol, mae wedi gwneud cyfraniad gwych at greu a datblygiad cynnar SCIE. Rydym yn dymuno'n dda iddo yn ei swydd llawn her yn Wiltshire."
Dywedodd Yr Athro Jones: "Mae hi wedi bod yn bleser helpu sefydlu SCIE. Gyda'r staff talentog a'r Bwrdd profiadol, rwy'n hyderus bod gan SCIE botensial mawr i wneud gwahaniaeth arwyddocaol i safon y gofal cymdeithasol a ddarperir yng Nghymru a Lloegr. Byddaf yn gwylio ei gynnydd â diddordeb personol brwd."
Cysylltwch â: Jane Campbell, Cadeirydd SCIE.
Swyddfa: 020 7089 6840, Gartref: 020 8391 4160

