Datganiad i'r Cyfryngau
16 Awst 2002 - Canllaw Arfer Gorau: Asesu Anghenion Iechyd Meddwl Pobl Hŷn
Mae'r Canllaw Arfer Gorau hwn ar gael nawr yn y Llyfrgell electronig ar gyfer Gofal Cymdeithasol (www.elsc.org.uk). Gellir ei gyrraedd drwy hafan SCIE (www.scie.org.uk). Mae'n darparu gorolwg o wybodaeth ac arfer cyfredol i bawb sy'n ymwneud ag asesu anghenion gofal cymdeithasol pobl hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl. Mae wedi'i fwriadu'n bennaf ar gyfer staff asesu rheng flaen, sy'n aml yn gyswllt proffesiynol cyntaf i berson hŷn neu eu teuluoedd a'u ffrindiau. Bydd hefyd yn adnodd i deuluoedd a chynhalwyr ac i bawb sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau rheng flaen.
Mae'r Canllaw yn amlinellu egwyddorion arfer asesu da, yn gwneud gwybodaeth yn hawdd i'w chael a dangos y sgiliau sydd eu hangen i wneud penderfyniadau doeth i gynorthwyo defnyddwyr y gwasanaeth a chynhalwyr. Mae'n cyfeirio defnyddwyr y gwasanaeth a chynhalwyr at adnoddau gwybodaeth pellach ac yn dangos beth y gallant ei ddisgwyl gan gynhalwyr cymdeithasol proffesiynol sy'n asesu eu hanghenion.
Mae'r Canllaw'n cynnwys:
- negeseuon o waith ymchwil
- enghreifftiau ymarfer
- enghreifftiau gwasanaeth
a chysylltiadau niferus i:
- ddarllen pellach defnyddiol
- gwybodaeth bellach ar y we
- cyfarwyddyd swyddogol a safonau
Cysylltwch â:
Patricia Kearney
Cyfarwyddwraig Datblygu Arfer
020 7089 684
patricia.kearney@scie.org.uk

