Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid (DAR) – Edrych ymlaen
Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid (DAR)– Edrych ymlaen
Mae Eleanor Roosevelt, y diplomydd a’r actifydd a oruchwyliodd ddrafftio’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, yn cael ei dyfynnu fel a ganlyn:
Ymhle, wedi’r cyfan, y mae hawliau dynol yn dechrau? Mewn mannau bach, yn nes at adref – mor agos ac mor fach fel na ellir eu gweld ar yr un map o’r byd. Eto nhw yw byd yr unigolyn.
Mae’r athroniaeth sydd wedi’i hymgorffori yn y datganiad hwn wrth wraidd diwygiad i’r Ddeddf Galluedd Meddyliol, a fydd yn dod i rym yn fuan.
Mae’r diwygiad, a elwir y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, yn newid y ffocws o amddifadu o ryddid – fel y bu’r achos hyd yn hyn – i amddiffyn rhyddid
Yn sgil cyfres o achosion cerrig milltir a amlygodd ddiffygion yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r DoLS, mae’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn adeiladu ar egwyddor sylfaenol llesiant sydd wrth wraidd (1:20) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a osododd mewn deddfwriaeth mai diben craidd (1:24) gofal a chymorth yw helpu pobl i gyflawni’r canlyniadau sy’n bwysig iddynt yn eu bywyd.
Mae’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn ymwneud â sicrhau bod y sectorau gofal ac iechyd wedi gwneud yr hyn y gallwn i amddiffyn rhyddid yr unigolyn a’i hawliau i fywyd teuluol.
Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, y Mesur Iechyd Meddwl a’r Ddeddf Galluedd Meddyliol wedi adeiladu sylfaen gref ar gyfer y ffordd rydyn ni’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y diogeliadau yn ein helpu i ddatblygu’r prosesau rydyn ni’n eu defnyddio eisoes.
Yn ychwanegol at yr egwyddor llesiant, mae wyth egwyddor arwyddocaol eraill yn cael eu plethu trwy dapestri’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Mesur Iechyd Meddwl, bob un ohonynt yn ein tywys ni i sicrhau ein bod yn cadw’r unigolyn yn ganolog i unrhyw ymyrraeth, gan gynnwys unrhyw ymyrraeth a allai arwain at ei amddifadu o’i ryddid.
Dull sy’n seiliedig ar gryfderau
Dylem ymarfer gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau, i sefydlu perthynas o ansawdd da gyda’r unigolyn sydd angen cymorth. Dylem edrych yn y lle cyntaf ar y pethau y gall yr unigolyn eu gwneud, yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar ei anawsterau.
Dylem fod yn ymarfer fel hyn drwy’r amser, oherwydd bod hybu llesiant unigol – edrych ar y pethau bychain sy’n meddwl y byd i’r unigolyn hwnnw – yn ganolog i gymorth Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
O dan y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, caiff y sectorau eu hatgoffa o’r cychwyn o’r angen am ystyried galluedd meddyliol unigolyn i wneud penderfyniadau, a gweithio i hybu rhyddid gan felly wneud y mwyaf o ddoniau, sgiliau a galluoedd yr unigolyn i’w alluogi i arfer ei hawl i wneud penderfyniadau am ei fywyd ei hun.
Yn ystod cynllunio gofal a chymorth (3:04) neu gynllunio gofal a thriniaeth, os bydd angen trefniadau i alluogi gofal neu driniaeth yr unigolyn hwnnw a allai olygu a mddifadu o ryddid, dylid ystyried hyn o dan y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, dim ots ym mha leoliad y caiff y gofal neu’r driniaeth eu darparu.
Ta waeth beth yw’r rheswm dros y cysylltiad, dylai ein sgyrsiau gydag unigolion fod yn gweithio tuag at helpu’r unigolyn i gael cymaint o lais (3:27) a rheolaeth â phosibl. Rhaid i ni ystyried gwerthoedd yr unigolyn, ei gredoau, beth sy’n bwysig iddo a pham: yn aml, pethau sydd mor fach fel na ellir eu gweld ar yr un map o’r byd, i alluogi cyflawni hyn.
Mae’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn gosod dyletswydd ar y sectorau (3:47) i ymgynghori â’r unigolyn i ganfod ei ddymuniadau a’i deimladau, a dywed y ddyletswydd yn glir fod yn rhaid i ni, cyn rhoi unrhyw drefniadau ar waith, fod wedi mynd ati i annog a chefnogi’r unigolyn i gymryd rhan, a chael ei farn fel rhan o’r broses lles pennaf, gan sicrhau mai dyma’r opsiwn lleiaf cyfyngol.
O dan y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, rhaid i’r Corff Cyfrifol – y (4:12) Bwrdd Iechyd neu’r awdurdod lleol yn nodweddiadol – sicrhau bod cefnogaeth mewn lle cyn unrhyw asesiadau cyn awdurdodi ac y bydd Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA) yn darparu’r gefnogaeth hon os na fydd Person Priodol ar gael.
Fodd bynnag, os nodir bod gan yr unigolyn (4:32) anhawster sylweddol o leiaf ar yr adeg pan fydd asesiad o angen yn dechrau, rhaid i’r dull cefnogi hwn fod mewn lle yn barod. Gall y gefnogaeth fod gan Berson Priodol, Eiriolwr Annibynnol neu Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol, er mwyn gwneud penderfyniadau er lles pennaf yr unigolyn.
Mae’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn pwysleisio ymhellach yr angen am fframwaith y gallwn ei ddefnyddio i gydweithio drwyddi er mewn sicrhau bod yr unigolyn yn cymryd rhan cymaint â phosibl, gan alluogi iddo gael cymaint (5:03) o lais a rheolaeth â phosibl.
Mae tryloywder yn ymwneud â bod yn glir i’r unigolyn a’r bobl sy’n ei gynrychioli pam mae penderfyniad yn cael ei wneud, pryd y gall fod angen amddifadu’r unigolyn o’r pethau a all ymddangos yn fach yn aml ond sy’n meddwl y byd i’r unigolyn.
Mae’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn adeiladu amddiffyn rhyddid i’r prosesau gofal a chymorth (5:28) a chynllunio gofal a thriniaeth presennol. Bydd y sgyrsiau ynghylch amddifadu posibl o ryddid yn digwydd yn gynt; ac, os ydym yn gweithio gan ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau, gan geisio helpu’r unigolyn i gael cymaint o lais (5:42) a rheolaeth â phosibl, a sicrhau ei fod yn cymryd rhan gymaint â phosibl yn y trafodaethau a’r prosesau gwneud penderfyniadau, dylai fod yn hawdd gwneud ein hymarfer yn dryloyw.
Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (5:57) a’r Mesur Iechyd Meddwl yn cydnabod (5:58) y gall anghenion unigolyn effeithio ar ei deulu a’i rwydweithiau cymorth hefyd.
O dan y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, oherwydd bydd effaith cynllun gofal a chymorth (6:07) neu gynllun gofal a thriniaeth ar ryddid yr unigolyn yn cael ei hystyried cyn yr amddifadu, caiff yr ystyriaeth hon ei gwneud yng nghyd-destun yr egwyddor hon. Felly, gall trafodaethau a’r posibilrwydd o gefnogaeth i’r bobl y mae’r amddifadedd yn effeithio arnynt gael eu cynnal.
Mae bod yn gyfannol yn ymwneud â sicrhau bod penderfyniadau’n ystyried holl amgylchiadau’r unigolyn, ei anghenion yng nghyd-destun ei sgiliau, uchelgeisiau a blaenoriaethau, a chydnabod nad yw’n bosibl cefnogi’r unigolyn ag anghenion, heb weld sut mae’r unigolyn yn ffitio i’w rwydwaith cymdeithasol ehangach.
I sicrhau bod holl amgylchiadau’r unigolion yn cael eu hystyried, mae’n ofyniad o dan y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid i ymgynghori ag eraill, er enghraifft unrhyw un sydd â diddordeb mewn lles yr unigolyn.
O dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Mesur Iechyd Meddwl , mae’n rhaid i unrhyw ymyrraeth fod o fudd i’r unigolyn dan sylw – ac mae angen i’r ymyrraeth hyn fod yn briodol.
Lefel anghenion yr unigolyn fydd yn pennu beth sy’n briodol – ac, oherwydd bod byd pob unigolyn yn wahanol – rhaid i’n hymateb fod yn briodol i hynny.
O dan y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, gellir defnyddio asesiadau y penderfynwyd arnynt yn flaenorol, fel asesiadau a gofnodir mewn cynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau Gofal a Thriniaeth, y gallu i gydsynio i drefniadau ac asesiad meddygol o anhwylder meddyliol, os ydynt yn briodol o hyd. Mae hyn yn galluogi lefel briodol o ymyrraeth i fyd yr unigolyn.
Er bod mwy o hyblygrwydd o dan y DoLS o ran yr amserlen ar gyfer awdurdodi, bydd y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn cynnig mwy o hyblygrwydd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn ac ni fyddant yn gorfodi adnewyddiadau blynyddol.
Er enghraifft, i rywun â dementia cam terfynol, mae’n bosibl na fydd angen adnewyddiad blynyddol oherwydd, yn ôl pob tebyg, ni fydd galluedd yr unigolyn yn dychwelyd.
Fodd bynnag, mae cyfle’n bodoli i wneud cais am adolygiadau heb eu hamserlennu, pe bai amgylchiadau unigolyn yn newid. Er hynny, gall adolygiadau o’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, cynlluniau Gofal a Chymorth neu gynlluniau gofal a thriniaeth gael eu cydamseru, felly’n lleihau biwrocratiaeth ddiangen.
Mae’r egwyddor cymesuredd yn sicrhau bod lefel y cymorth a ddarperir yn cyd-fynd â lefel yr angen – a dim mwy. Dylem amddiffyn hawliau dynol – sy’n dechrau mewn mannau bychain – ac ni ddylem fod yn ymyrryd â’r rhain yn ddiangen.
Ar hyn o bryd, mae’r Asesiad Lles Pennaf ar gyfer awdurdod DoL yn mynd ati i sicrhau bod yr amddifadu yn ymateb cymesurol i’r tebygolrwydd y bydd yr unigolyn yn dioddef niwed – gan ystyried difrifoldeb y niwed hwnnw – a bod y lleoliad yn angenrheidiol i’w atal.
Mae’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn ystyried sut gallai cynllun gofal a chymorth neu gynllun gofal a thriniaeth mewn unrhyw leoliad beryglu rhyddid yr unigolyn, a bod yr amddifadu’n gymesur i’r lefel niwed canfyddedig a’i heffaith ganlyniadol.
Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Mesur Iechyd Meddwl yn cydnabod na fydd cyswllt ag unigolyn ar adeg benodol o reidrwydd yn rhoi darlun llawn o’i anghenion
Oherwydd bod disgwyliad o dan y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid y bydd y sectorau yn gweithio i amddiffyn rhyddid unigolyn, bydd mwy o sgôp i sicrhau dealltwriaeth lawnach nid yn unig o’r hyn sy’n bwysig ar gyfer yr unigolyn, ond yn bwysig iddo ei hunain a pham,
y pethau hynny sydd mor fach “na ellir eu gweld ar unrhyw fap o’r byd … byd yr unigolyn.”
Mae’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn pwysleisio anghenraid y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Mesur Iechyd Meddwl i sicrhau bod yr unigolyn yn ymwneud a chyfranogi’n llawn, gan sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed a’i fod – hyd eithaf ei allu – yn gwneud penderfyniadau dros ei hun.
Yn yr un modd â’r DoLS, o dan y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, mae dyletswydd benodol ar y Corff Cyfrifol i sicrhau bod cymorth mewn lle. Beth sy’n wahanol o dan y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yw eu bod yn cyflwyno’n benodol Ddyletswydd i Ymgynghori ac yn ystyried dymuniadau a theimladau unigolyn.
Mae’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn cynnwys y cyfrifoldeb cyfreithiol i amddiffyn rhyddid ac mae’n gosod dyletswydd ar Gyrff Cyfrifol i asesu ar gyfer y posibilrwydd o amddifadu o ryddid ac awdurdodi hynny, mewn unrhyw leoliad, yn hytrach nag awdurdodi ar ôl amddifadu o ryddid.
Gan adeiladu ar lwyddiannau’r DGM, DoLS ac egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Mesur Iechyd Meddwl, gellir ystyried bod y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn cydnabod y gwirionedd sydd wrth wraidd datganiad Eleanor Roosevelt ynghylch tarddiad hawliau dynol.
Ymhle, wedi’r cyfan, y mae hawliau dynol yn dechrau? Mewn mannau bach, yn nes at adref – mor agos ac mor fach fel na ellir eu gweld ar yr un map o’r byd. Eto nhw yw byd yr unigolyn.
I baratoi ar gyfer Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, mae angen i ni gymryd perchenogaeth i sicrhau bod yr hawliau sy’n cael eu rhoi gan y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r dyletswyddau i asesu, cynllunio ac adolygu gofal, cymorth a thriniaeth sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Mesur Iechyd Meddwl, bellach yn cael eu gwireddu, gan ddefnyddio cyfoeth presennol y gweithlu o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad, trwy baratoi ar gyfer newid i weithdrefnau a bod yn barod am newid i system sy’n ceisio gwreiddio ethos ymrymusol y Ddeddf Galluedd Meddyliol.