Skip to content

Gwerthuso’r Rhaglen Cydbwyso Hawliau a Chyfrifoldebau

Rhagair gan Gofal Cymdeithasol Cymru

“Ein huchelgais ar gyfer gofal a chymorth yng Nghymru yw sicrhau bod pobl wrth wraidd gofal a’n bod yn cefnogi eu dewis, eu hannibynniaeth a’u rheolaeth. Rydym am hyrwyddo lles ac helpu unigolion rhag gorfod cael cymorth mwy dwys, ond nid yw hyn bob amser yn bosib, ac efallai y bydd angen cael gofal, cymorth a thriniaeth yn yr ysbyty. Mae unigolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn poeni am faint o amser y mae unigolion yn aros yn yr ysbyty gan nad oes modd i ni sicrhau dewis, rheolaeth ac annibyniaeth unigolion mewn ward ysbyty. Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl yn gwella yn well, pan fyddant yn ddigon iach i fynd adref, yn eu cartrefi eu hunain.

Un o’r ffactorau sy’n gallu effeithio faint o amser y mae person yn treulio yn yr ysbyty yw gwrthwynebiad risg proffesiynol, a diffyg cydweithio ar draws gwasanaethau. Mae’r ffocws wedi bod ar ar y broses gynllunio yn hytrach nag ar yr unigolyn yn rhy hir. Mae gwybod ‘beth sy’n bwysig’ i’r unigolyn a deall pa gryfderau a galluoedd sydd ganddynt (gan gynnwys cefnogaeth eu teulu a’u cymuned) yn creu cynllun rhyddhau mwy cyfannol ac yn helpu i flaenoriaethu ble mae angen cymorth, er mwyn galluogi rhyddhau ‘digon da’ amserol.

Datblygodd a phrofodd Gofal Cymdeithasol Cymru raglen o’r enw ‘Cydbwyso Hawliau a Chyfrifoldebau: Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig – Cefnogi Newid Diwylliannol’ (y cyfeirir ato fel BRR). Nod y rhaglen hon oedd datblygu sgiliau a gallu newydd i ail-gydbwyso gorfod dibynnu ar ddulliau sy’n seiliedig ar risg a phroblemau, gyda’r bwriad o ddatblygu a darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Roedd y rhaglen ar y cyd (BRR) yn gyfuniad o ‘Sgiliau Cyfathrebu Cydweithredol’ (gofal cymdeithasol) a’r hyfforddiant a datblygu sgiliau Nodau Gofal (iechyd). Roedd y ddwy raglen bresennol sefydledig yn rhannu egwyddorion cyffredin gan drafod ‘beth sydd angen i ni ei wybod’ gyda ‘sut allwn ni wneud hynny’ a ‘beth mae hyn yn ei olygu’ er mwyn gwneud penderfyniadau effeithiol a chysylltiol. Roedd adeiladu ar y rhaglenni presennol hyn yn ein galluogi i ddatblygu rhaglen gyda’r fantais ychwanegol o amrywiaeth o weithwyr proffesiynol yn dod at ei gilydd ar gyfer dysgu, rhannu syniadau, a datblygu sgiliau. Roedd y rhaglen yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer staff rheng flaen yn ogystal â chynllunio sesiynau parodrwydd staff rheoli a darparu cymorth i staff rheng flaen.

Mewn partneriaeth ag Uned Gyflawni’r GIG, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan (ABUHB) ac awdurdodau lleol rhanbarth Gwent Fwyaf, gwnaethom brofi’r rhaglen gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol sy’n rhan o’r broses ryddhau cleifion o’r ysbyty yn y rhanbarth.”

Comisiynwyd yr adroddiad hwn gan Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae’n cyflwyno prif ganfyddiadau o werthusiad annibynnol a wnaed gan SCIE.

Beth allai ymgorffori BRR ei gyflawni?

Roedd mentoriaid, a fu’n rhan o’r rhaglen am o leiaf chwe mis, yn credu y gallai ymgorffori BRR gyflawni’r canlynol:

  • arosiadau byrrach mewn ysbytai
  • gofal mwy integredig i unigolion wrth i dimau amlddisgyblaethol (MDTs) wneud penderfyniadau gyda’i gilydd
  • ni fyddai rhai cleifion sy’n mynd i’r ysbyty yn aml yn gorfod dod nol i’r ysbyty/gwasanaethau mor aml
  • adnabod cryfderau/cefnogaeth unigolion gan gynnwys teulu a’r gymuned i gefnogi rhyddhau cleifion a’u lles tymor hwy
  • cael sgyrisau pwysig gyda chleifion a’u teuluoedd yn gynharach
  • atgyfeiriadau mwy effeithiol ac effeithlon sy’n sicrhau bod sgyrsiau wedi’u digwydd gyda’r person heb orfod mynd drwy pethau tro ar ôl tro. Gellir symud hyn ymlaen bellach gan gyflwyno modelau asesyddion dibynadwy.

Prif ganfyddiadau

Yn dilyn y rhaglen hyfforddiant a chymorth:

  • Nododd bron pawb a gymerodd ran gynnydd mewn sgiliau ‘gwrando i ddeall”, “gwrando yn fyfyriol”, “helpu pobl i ddeall eu cryfderau” a “crynhoi canlyniadau a gweithredoedd”, yn ogystal â gwell dealltwriaeth o ddyletswyddau gofalu.
  • Roedd trefnu a chefnogi/annog i gydweithwyr eraill gynnal trafodaethau cydweithredol wedi’i gyflawni.

Er mwyn galluogi ymgorffori BRR, mae angen i’r diwylliant sefydliad, a’r prosesau a gwaith papur ofynnol, gyd-fynd a chefnogi’r dull a chanolbwyntio ar gwestiynau sy’n cefnogi rhyddhau’r unigolyn yn briodol ac yn gyflym.

  • Gweler isod rhwystrau a’r heriau ymgorffori BRR:
    • Ymateb pan nad yw cydweithwyr am gymryd rhan mewn ethos a dull BRR sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
    • Diwylliant beio (rhwng timau, unigolion, neu wasanaethau cymdeithasol yn erbyn ysbytai).
    • Diffyg amser ar gyfer cyfathrebu’n effeithiol â chleifion a gweithwyr proffesiynol; nid yw pwysau sy’n cystadlu bob amser yn caniatáu i’r person iawn gael y sgwrs iawn ar yr adeg iawn.
    • Nid yw archwilio sefydliadol a chadw cofnodion yn cyd-fynd â’r hyn sy’n bwysig i bobl/teuluoedd.
    • Roedd penderfyniadau sy’n dod o safbwynt risg a phroblemau, yn hytrach na chryfderau a chanlyniad ‘digon da’ i gleifion, yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig iawn iddyn nhw.
    • Mae teuluoedd yn tueddu i edrych at staff meddygol fel rhai sy’n cael prif farn yn y tîm sy’n anodd ei herio.

Gofal Cymdeithasol Cymru – camau nesaf

Ers nifer o flynyddoedd, mae polisi iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi canolbwyntio ar gryfhau gwasanaethau gofal cymunedol. Mae hyn yn ganolog i ddarparu ‘Cymru Iachach – Cynllun hirdymor ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ a’r rhaglenni Cenedlaethol; y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, y Rhaglen Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, y Gronfa Integredig Ranbarthol a’r daith ‘Gyflymach Bellach’ sy’n canolbwyntio ar gyflawni hyn. Fodd bynnag, mae wedi bod yn anodd ei ddarparu oherwydd y boblogaeth gynyddol a’r galw cysylltiedig.

Gall egwyddorion a chanfyddiadau’r rhaglen Cydbwyso Hawliau a Chyfrifoldebau helpu i lywio’r ymddygiadau, perthnasoedd, sgiliau, ac arweinyddiaeth, sy’n ofynnol i dimau aml-broffesiynol integredig weithio’n fwy effeithiol gyda’i gilydd. O ran y mater presennol a pharhaus o oedi wrth ryddhau cleifion, mae tystiolaeth a phrofiad staff yn dangos bod adolygu sgyrsiau gyda chleifion a chydweithwyr yn annog trefniadau rhyddhau mwy effeithiol. Mae cael dealltwriaeth llawer cliriach o’r hyn sydd ei angen ar unigolion fel blaenoriaeth, a’r hyn y gallan nhw, eu teuluoedd a’u cymuned, gyfrannu at gefnogi eu hiechyd a’u lles yn rhoi budd i bawb dan sylw ac yn lleihau’r pwysau yn y system.

Mae cyflawni ac ymgorffori gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd yn gofyn am gamau gweithredu ar lefel tîm, sefydliad, rhyngasiantaethol a chenedlaethol. I ddefnyddio arferion dysgu’r adroddiad hwn a cheisio gwella ein harfer o ran cydbwyso hawliau a chyfrifoldebau, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru:

  • Yn rhannu canfyddiadau’r adroddiad hwn ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys: Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion ADSS Cymru, Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol; mentrau i gefnogi adeiladu Capasiti Cymunedol.
  • Yn ystyried gyda AaGIC (HEIW) sut y gellir ymgorffori canfyddiadau’r gwaith hwn i’r strategaeth gweithlu 10 mlynedd.
  • Yn defnyddio arferion dysgu i lywio datblygiadau ar Wardiau Rhithwir, Fframwaith Aml-Broffesiynol a Llif gwaith Asesyddion Dibynadwy.
  • Yn parhau i ddarparu canlyniadau a chefnogaeth a hyfforddiant sy’n seiliedig ar gryfderau ar draws y Sector Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys cynnal rhwydweithiau o hyrwyddwyr i ymgorffori’n ymarferol.
  • Yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) a phartneriaid ar sut i gefnogi ymgorffori diwylliannau positif.

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen Cydbwyso Hawliau a Chyfrifoldebau, cysylltwch â Jessica Matthews drwy e-bost.