Skip to content

Dysgu digidol yn natblygiad y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru

Dysgu o COVID-19 a llywio dulliau yn y dyfodol

Cyhoeddwyd: Tachwedd 2022

Crynodeb

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau ymchwil i ddeall effeithiau, buddion a heriau dysgu digidol i’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Canolbwyntiodd yr ymchwil ar y meysydd hyfforddi y mae’r 20 rheolwr y gweithlu sy’n gweithio ar draws 22 awdurdod lleol (ALl) Cymru yn eu rheoli. Yn ogystal ag adolygu tystiolaeth, casglom safbwyntiau a phrofiadau rheolwyr y gweithlu mewn awdurdodau lleol, darparwyr hyfforddiant, rheolwyr darparwyr gofal cymdeithasol, a staff gofal cymdeithasol rheng flaen dros y 2 flynedd ddiwethaf.

Yn ystod pandemig COVID, bu cynnydd yn y defnydd o ddysgu digidol, i alluogi staff gofal cymdeithasol rheng flaen i gael at hyfforddiant a datblygiad. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau ymchwil i ddeall effeithiau, buddion a heriau dysgu digidol i’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn nodi pwyntiau dysgu allweddol ac yn rhoi argymhellion am ddulliau dysgu digidol yn y dyfodol.

Cynhaliom adolygiad o dystiolaeth, ynghyd â gweithdai a chyfweliadau â: rheolwyr y gweithlu mewn awdurdodau lleol ac arweinwyr rhanbarthol; darparwyr gofal cymdeithasol; darparwyr hyfforddiant; rheolwyr Gofal Cymdeithasol Cymru; a gweithwyr rheng flaen.

An English language version of this report is available

Mae fersiwn Saesneg o’r adroddiad hwn ar gael

Canfyddiadau

  • Cafwyd rhai profiadau cadarnhaol – chwaraeodd awdurdodau lleol (ALlau), darparwyr hyfforddiant a darparwyr gofal cymdeithasol ran hanfodol yn natblygiad cyflym seilwaith digidol, darparu cyfarpar i sefydliadau lleol, a gwella adnoddau digidol. Cefnogwyd rhai o’r mentrau hyn gan gyllid a ddarparwyd gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Mae mentrau i ddatblygu sgiliau a llythrennedd digidol yn allweddol i gefnogi staff, helpu i godi hyder a gwella mynediad at ddysgu digidol.
  • Mae buddion clir yn sgil dysgu digidol – gall gynnig hyblygrwydd i ddysgwyr, y gallu i ddysgu ar eu cyflymder eu hunain, a chyfleoedd am ddysgu annibynnol. I ddarparwyr, gall llai o deithio gan staff a chyrhaeddiad ehangach dysgu digidol ei wneud yn fwy cost-effeithiol o’i ddarparu ar raddfa.
  • Mae heriau hefyd gall problemau cysylltedd, mynediad cyfyngedig at gyfarpar, ansawdd rhai adnoddau digidol, ynghyd â sgiliau a llythrennedd digidol cyfyngedig ymhlith y gweithlu, sy’n rhwystrau rhag manteisio ar ddysgu digidol, rwystro ymdrechion dysgu digidol. O ran cyflwyno dysgu digidol, dywedodd pobl fod angen iddo fod yn fwy rhyngweithiol, ynghyd â chefnogi lles dysgwyr. Gall perthnasoedd a dynameg grŵp fod yn gyfyngedig, gan leihau cyfleoedd am ddysgu gan gymheiriaid. O’i ddatblygu’n lleol neu ar raddfa fechan, mae cost dysgu digidol yn uchel.
  • Cyfrannodd cyfranogwyr lawer o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer dulliau yn y dyfodol – roedd pobl am weld cydbwysedd rhwng sesiynau digidol a sesiynau wyneb yn wyneb, hyfforddiant sy’n ymarferol ac yn rhyngweithiol, adnoddau o ansawdd uchel, a chefnogaeth ar gyfer dysgu annibynnol. Roedd awgrymiadau ar gyfer gwella llythrennedd digidol staff rheng flaen yn cynnwys creu rhaglen hyrwyddwyr digidol a chanolfannau galw heibio. Awgrymodd pobl greu platfform dysgu i Gymru gyfan, a all gynnal a rheoli dysgu gyda ffocws ar brofiad y dysgwr.

Argymhellion

Bwriedir i’r argymhellion hyn fod yn gam cyntaf tuag at lywio dulliau ar gyfer dysgu digidol yng Nghymru yn y dyfodol.

Lefel polisi a lefel strategol

  • Mabwysiadu dull Cymru gyfan ar gyfer dysgu digidol – gan gyd-gynhyrchu â Gofal Cymdeithasol Cymru, ALlau, darparwyr hyfforddiant a darparwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys staff rheng flaen.
    • Creu grŵp llywio Cymru gyfan i oruchwylio’r gwaith o greu platfform dysgu digidol Cymru gyfan.
    • Creu platfform dysgu digidol Cymru gyfan sy’n ‘siop un stop’ i guradu, cynnal a chyfeirio at adnoddau dysgu perthnasol, gyda ffocws ar brofiad y defnyddiwr a chynhwysiant.
    • Creu pasbortau dysgu digidol, gyda system gyffredinol ar gyfer cofnodi presenoldeb a chwblhau, a darparu diweddariadau am hyfforddiant a hysbysiadau.
  • Creu cyfleoedd am gydweithredu rhwng ALlau – i rannu dysgu a safbwyntiau am strategaeth, ac i annog cysondeb mewn dysgu digidol ar draws Cymru.
  • Rhoi arweiniad ar ddysgu digidol, cyfunol ac wyneb yn wyneb – rhoi cyngor ar y mathau mwyaf effeithiol/priodol o ddarparu yn ôl anghenion dysgwyr, anghenion y pwnc, anghenion asesu a chost-effeithiolrwydd.
  • Parhau â chymorth cyllid a’i ehangu.

Awdurdodau lleol

Cefnogi dysgwyr:

  • datblygu llythrennedd digidol – hyrwyddwyr digidol, canolfannau cymorth galw heibio a hyfforddiant sgiliau sylfaenol.
  • cydbwyso dysgu digidol a dysgu wyneb yn wyneb – ar sail anghenion dysgwyr.
  • rhoi amodau dysgu cefnogol i ddysgwyr – amser wedi’i neilltuo, cyfarpar digonol a sgiliau sylfaenol (llythrennedd digidol).

Cefnogi darparwyr:

  • parhau â’r cymorth a gynigir a’i ehangu – i ddarparwyr hyfforddiant a darparwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu sgiliau digidol a chael at gyfarpar.
  • datblygu rhwydweithiau lleol ar gyfer darparwyr hyfforddiant – i rannu arfer gorau.

Darparwyr hyfforddiant a darparwyr gofal cymdeithasol

  • Cynyddu’r ffocws ar ddatblygu sgiliau staff dysgu a datblygu
  • canolbwyntio ar anghenion dysgwyr – mabwysiadu ymhellach ddulliau rhyngweithiol a dulliau seiliedig ar brofiadau
  • annog dysgwyr i roi eu dysgu ar waith – defnyddio cofnodion dysgu ymarfer, dilyn cysylltiadau i fyny, ac arweiniad i reolwyr ar sut i gynorthwyo staff.

Rheolwyr a staff gofal cymdeithasol

  • dylai rheolwyr gynorthwyo staff i roi dysgu ar waith – trafod enghreifftiau go iawn yn ystod sesiynau goruchwylio a chyfarfodydd
  • dylai rheolwyr gynorthwyo staff cyn hyfforddiant ac ar ôl hyfforddiant – i gael at ddeunyddiau cyn hyfforddiant a chwblhau gweithgareddau ar ôl dysgu
  • dylai aelodau staff barhau i ddatblygu eu llythrennedd a’u moesau digidol – mynd ati i geisio cymorth a defnyddio adnoddau a gynigir gan yr ALl yn weithgar.